real time web analytics

Loggerheads

Mae Parc Gwledig Loggerheads dair milltir o’r Wyddgrug ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mewn cyhoeddusrwydd cynnar, byddai Crosville yn aml yn sôn amdan y lle fel “The Loggerheads”. Cafodd Loggerheads effaith sylweddol ar y gwasanaeth bysiau rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug, oherwydd y denodd ymwelwyr o gylch eang yn gynnar. Pan ddechreuodd gwasanaeth Rhuthun yn 1919, roedd tair taith hefyd o’r Wyddgrug a aeth mor bell â Loggerheads yn unig. Roedd Crosville yn sylweddoli pwysigrwydd Loggerheads pan brynodd “ddau gae a’r coedydd”, yn 1926, am swm o £1,600 (cywerth â £68,500 heddiw). Ni fu’n hir cyn i Crosville godi ystafelloedd te ar y tir, yn cynnig tocynnau cyfunol bws a phryd ac, er nad yw’n ymddangos y gwnaeth Crosville arian erioed trwy redeg y cyfleusterau arlwyo yn y parc, roedd yn ystyried bod y cynnydd mewn teithwyr yn fanteisiol. Dywedodd Winthrop James Crosland-Taylor, mab sefydlydd y cwmni, mai’r cynnydd hwn mewn teithwyr oedd “beth oedd ei eisiau mewn gwirionedd yn y lle cyntaf”. Roedd yn enghraifft ddiddorol o fusnes bysiau’n buddsoddi i greu galw hollol newydd gan deithwyr. Mae maint poblogrwydd Loggerheads i’w weld yn amserlen haf 1926, sy’n nodi rhyw 30 o deithiau o’r Wyddgrug i Loggerheads, y rhan fwyaf gyda chysylltiadau â bysiau neu drenau i drefi eraill ac yn ôl. O’i gymharu, nifer y teithiau’n ymestyn heibio Loggerheads i Ruthun oedd chwech (saith ar ddydd Sadwrn). Dechreuodd gwasanaeth o Benbedw i Loggerheads ym mis Mehefin 1924. Aeth un daith ymlaen i Ruthun ac roedd taith brynhawn am 1415 o Benbedw i Loggerheads yn defnyddio siarabáng (salŵn gyda tho cynfas codadwy), a gyrhaeddodd Loggerheads am 1615. Yna dychwelodd o Loggerheads am 1800, a chyrraedd yn ôl ym Mhenbedw am 2000. Erbyn 1928, oedd amrywiol wasanaethau cyflym ac fel arall yn cyrraedd Loggerheads, weithiau’n ddyddiol, o fannau fel Lerpwl, Warrington, Widnes, Runcorn, Frodsham, Speke, Caer, Wallasey, Liscard, Newcastle-under-Lyme, Crewe, Nantwich a Northwich, rhai trwy gysylltiad, eraill yn uniongyrchol. Aeth y rhai o Benbedw, Liscard a Warrington ymlaen i Ruthun. Yn 1928, cynhaliwyd “Eisteddfod Gerddorol Fawreddog” arbennig yn Loggerheads. Hysbysebwyd hyn yn yr amserlen am y cyfnod. Llywydd yr Eisteddfod oedd y Cynghorydd C Crosland-Taylor YH, cadeirydd Crosville. Bore neu brynhawn allan poblogaidd drwy’r adeg oedd dal y bws F10 o Benbedw, Queensferry, Bwcle neu’r Wyddgrug i Bant-y-mwyn; neu’r B32 o’r Wyddgrug i Bant-y-mwyn a cherdded i Loggerheads. Ar ôl lluniaeth, yr arfer wedyn oedd aros am y B33/4 neu’r F9 yn ôl i’r Wyddgrug; neu’r F9 i’r Wyddgrug, Bwcle, Queensferry neu Benbedw. Arhosodd Loggerheads yn gyrchfan boblogaidd ar y bws tan ddiwedd y 1960au, pan ddaeth y car modur preifat yn fwyfwy pwysig. Parodd perchenogaeth a chysylltiad Crosville â Loggerheads am 50 mlynedd bron. Yn 1974 y gwerthodd Crosville ei fudd yn Loggerheads i Gyngor Sir Clwyd oedd newydd ei sefydlu. Heddiw, Sir Ddinbych sy’n rheoli’r parc gwledig ar ran Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Crwydrwr Clwyd Yn 2001, rhoddwyd yr enw “LoggerheadsLink” am gyfnod byr ar wasanaethau bysiau rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug ac o’r Wyddgrug ar wasanaeth 41 i Gaer. Yn 1999 a 2000, ychwanegodd Sir Ddinbych a Sir y Fflint wasanaethau Sul ar gylch Yr Wyddgrug - Rhuthun - Dinbych - Caerwys - Yr Wyddgrug ac i’r gwrthwyneb. Roedd y rhain hefyd yn gwasanaethu Maes-hafn ond nid oeddent yn galw yn unman arall oddi ar briffordd Rhuthun - Yr Wyddgrug. Rhifwyd y gwasanaethau Sul yn 9/9A a chawsant yr enw “CLWYDIANline”. M & H oedd y gweithredwr, er bod y gwasanaethau hyn wedi trosglwyddo i First yn 2001 fel X10, a heb fod yn galw ym Maes-hafn na Chaerwys. Roedd gwasanaeth X10 wedi diflannu erbyn 2002. Rhwng 1999 a 2006 yn gynwysedig, cyflwynodd Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint wasanaethau hamdden ar Suliau a gwyliau banc yn yr haf o’r enw Crwydrwr Clwyd, cyfres o lwybrau bysiau cysylltiedig yn rhoi mynediad cynaliadwy heb gar i gefn gwlad Gogledd-ddwyrain Cymru, yn bennaf ar gyfer cerddwyr. Loggerheads oedd canolbwynt gweithredol y gwasanaeth. Ymhlith y gweithredwyr oedd KD Coaches, GHA Coaches, M & H Coaches, First, Arriva a D Jones & Son. Daeth i ben ar ôl tymor 2006.
Prynwyd Creigiau Loggerheads adnabyddus a’r Coedydd a Rhodfeydd dymunol gerllaw, yn ymestyn i dros 40 erw, gan Crosville Motor Co. Ltd., ac maent erbyn hyn ar agor i’r Cyhoedd fel Parc Cenedlaethol, yn rhad ac am ddim (ac eithrio Dydd Nadolig). Mae’r olygfa orau hysbys o Foel Fammau (sic) a Bryniau Clwyd, a phanorama o’r golygfeydd ysblennydd o gwmpas i’w cael o’r Creigiau, y mae mynediad diogel a rhwydd iddynt. Mae’r fynedfa i’r Leete Walk enwog yn mynd drwy’r Parc. Seddi gardd ym mhobman. O amserlen Crosville 1928
Hawlfraint 1919-2019 Cyngor Sir Ddinbych
Loggerheads Estyniadau