real time web analytics

Estyniadau y tu hwnt i Ruthun a’r Wyddgrug

Yn ystod 100 mlynedd y gwasanaeth bysiau o Ruthun i’r Wyddgrug, ymysg ei newidiadau fyrdd bu estyniadau i fannau eraill. Penbedw Dechreuodd gwasanaethau bysiau dyddiol uniongyrchol o Benbedw i’r Wyddgrug, Loggerheads a Rhuthun yn 1924 am bris tocyn i Ruthun o 6/- (30c) ac i Loggerheads am 4/- (20c). Roedd dwy daith ddyddiol yn yr haf ac un yn y gaeaf. Yn yr haf hefyd roedd gwasanaeth siarabáng dyddiol o Benbedw i Loggerheads yn unig, gan ddefnyddio salŵn gyda tho cynfas codadwy. Roedd y rhan fwyaf o deithiau i Benbedw ac yn ôl yn mynd ymlaen o Ruthun i Ddinbych hefyd. Ar gyfer gaeaf 1930, roedd dwy daith, un yn y bore a’r llall yn hwyr yn y prynhawn (1015 a 1800 o Benbedw; a 0900 a 1700 o Ddinbych). Nid oedd bysiau’n aros yn Rhuthun. Erbyn haf 1935, roedd pedair taith bob dydd i Benbedw ac yn ôl, gyda dwy yn y gaeaf. Parhaodd y patrwm hwn tan y rhyfel, pan gwtogwyd y teithiau i un. Ar ddydd Sul, gadawodd Benbedw am 1115 ac ar ddiwrnodau eraill am 1715, gyda’r gwasanaeth Sul yn gadael Dinbych am 1605 a diwrnodau eraill am 0830. Mae hyn yn dangos bod traffig dydd Sul yn dod o Gilgwri, yn ddiamau at ddibenion hamdden yng Ngogledd Cymru. Ar y llaw arall, roedd traffig dyddiau gwaith yn dod â phobl o Ddinbych a Rhuthun i Benbedw ar gyfer siopa a busnes personol, yn ddiamau gyda rhai’n newid yn Woodside Penbedw i fferïau dros afon Mersi i fynd i Lerpwl. Ar ôl y rhyfel, yn 1947, roedd dwy daith yn yr haf ac un yn y gaeaf. Yn 1949, fodd bynnag, mae’n ymddangos bod hyn wedi lleihau i un ond cynyddodd i ddwy yn ystod haf 1950. Yn 1953, cynyddodd eto i dair taith yn yr haf ac yna i bedair yn haf 1955 ond ni newidiodd o un daith yn y gaeaf drwy’r adeg. Parhaodd y patrwm hwn o bedair taith yn yr haf ac un yn y gaeaf o 1955 i 1961, pan ostyngodd i ddim ond un daith bob dydd drwy gydol y flwyddyn, eto gyda’r daith ddydd Sul yn gadael Penbedw yn y bore, tra’r oedd taith y bore ar ddyddiau gwaith yn ymadael o Ddinbych. Yn ystod y cyfnod 1967 i 1968, cynyddwyd y teithiau haf i ddwy ond, o 1968 i 1983, dychwelodd i un. O haf 1983 ymlaen, daeth y daith uniongyrchol o Ddinbych i Benbedw i ben, er y cadwyd taith o Ddinbych i’r Wyddgrug gyda chysylltiad ymlaen i Benbedw. Ers 1959, rhif gwasanaeth Dinbych - Rhuthun - Yr Wyddgrug - Penbedw oedd F9 ac, yn union cyn hyn, roedd yn 104. Dinbych Yn ystod 100 mlynedd gwasanaeth Rhuthun i’r Wyddgrug, roedd nifer o gyfnodau pan oedd teithwyr yn gallu teithio o’r Wyddgrug yn uniongyrchol i Ddinbych trwy Ruthun, heb adael eu bws. Fel y crybwyllwyd uchod, aeth teithiau o Benbedw hefyd ymlaen i Ddinbych. Yn y cyfnodau cynharach, o 1925 pan ddangoswyd Dinbych yn amserlenni Penbedw - Yr Wyddgrug - Rhuthun, roedd bob amser adeg pan oedd teithwyr ar y daith yn gallu aros yn Rhuthun am o leiaf 30 munud, gan awgrymu gorfod newid bws efallai. Erbyn 1928, mae’n fwy amlwg bod bysiau’n teithio drwodd o’r Wyddgrug i Ruthun ac yna i Ddinbych gyda rhyw bedair taith drwodd bron bob dydd yn ystod yr haf ond dim ond un daith yn y gaeaf. Erbyn 1930, peidiodd yr amserlenni â dangos teithiau trwodd ond bod cysylltiad da yn Rhuthun i’w weld. Daliodd gwasanaeth Penbedw i redeg trwodd i Ddinbych cyn darfod yn 1983. Ym mis Medi 1990, penderfynodd Crosville Cymru, oedd bryd hynny’n gweithredu gwasanaeth Rhuthun i’r Wyddgrug, ymestyn y gwasanaeth o Ruthun i Ddinbych ac o’r Wyddgrug i Gaer. Cafodd rif gwasanaeth B5 ac roedd pedair taith o Ddinbych drwy Ruthun a’r Wyddgrug i Gaer yn ystod y dydd. Nid oedd yn gweithredu ar y Sul. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym mis Chwefror 1991, fe newidiodd y gwasanaeth, bellach yn rhedeg o’r Rhyl ond yn terfynu yn yr Wyddgrug, heb fynd ymlaen i Gaer. Roedd pum taith drwodd rhwng y Rhyl a’r Wyddgrug a chafodd rif gwasanaeth 52. Ym mis Hydref 1991, fodd bynnag, rhoddodd Crosville Cymru ben ar yr arbrawf hwn a dychwelodd i gwasanaeth Yr Wyddgrug - Rhuthun - Dinbych, gyda dim ond dwy daith drwodd ymlaen o Ruthun i Ddinbych, y rhain hefyd yn cael rhif gwasanaeth B5. Ym mis Gorffennaf 1994, daeth yr estyniad i Ddinbych i ben ac aeth y gwasanaeth o’r Wyddgrug yn ôl i derfynu yn Rhuthun. Caer Mae gwasanaeth heddiw’n ymestyn i Gaer ar ddwy daith ar ddyddiau gwaith. Nid fel hyn y bu erioed. Ar ôl y rhyfel, mewn datblygiad arwyddocaol yn 1949, gwelwyd Crosville yn cyflwyno’i wasanaeth trwodd cyntaf rhwng Rhuthun, Yr Wyddgrug a Chaer, dan y rhif 56. Rhedwyd un daith ddychwelyd o Ruthun ymlaen o’r Wyddgrug i Gaer bob dydd, heblaw dydd Mercher a dydd Sul. Yn fuan, daeth y 56 yn ddwy daith ddychwelyd ar bob diwrnod gweithredu. Ym mis Medi 1965, darfu Crosville wasanaeth trwodd Rhuthun - Caer a oedd, cyn hynny, wedi dal i weithredu am bum diwrnod yr wythnos. Ailgychwynnodd teithiau trwodd unwaith eto yn 1977. Rhoddodd Crosville rif gwasanaeth B8 iddynt ac roedd pedair taith o Ruthun i Gaer o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda thaith ychwanegol ar ddydd Sadwrn. Erbyn 1980, newidiodd rhif y gwasanaeth i B1X ac roedd un daith ychwanegol bob dydd. Yn 1985, cwtogwyd y gwasanaeth i ddim ond pedair taith gyda rhif gwasanaeth arall, sef B7 a B7X y tro hwn. Yn 1986, fodd bynnag, daeth yr estyniad i Gaer i ben eto. Ailymddangosodd yr estyniad yn 2001 pan oedd y gwasanaeth, erbyn hynny, yn cael ei redeg gan GHA Coaches dan gontract i Gynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Medrodd GHA gysylltu gwasanaeth Rhuthun - Yr Wyddgrug B5 gyda’i fysiau ar wahân 41 Yr Wyddgrug - Treuddyn - Caer fel nad oedd teithwyr i Gaer o Ruthun mwyach yn gorfod newid bysiau yn yr Wyddgrug. Roedd yr amser teithio o Ruthun i Gaer yn 90 munud bron. Yr haf canlynol, hysbysebwyd hyn fel y “LoggerheadsLink”. Gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych welliannau i wasanaeth Rhuthun i’r Wyddgrug yn 2009 ac eto yn 2010 a chyflwynodd ddwy daith ddychwelyd trwodd a redodd i ddechrau fel 1A ac yna fel X1 rhwng Rhuthun, Yr Wyddgrug a Chaer, gydag amser teithio o un pen i’r llall o ddim ond 60 munud, gan arbed rhyw 30 munud ar y daith flaenorol. Roedd y rhain hefyd yn gweithredu trwy Barc Manwerthu Brychdyn. Mae’r estyniad i Gaer yn gweithredu fel hyn heddiw ac mae nifer y teithwyr arnynt wedi bod yn gyson uwch nag unrhyw un arall ar y dramwyfa (heblaw teithiau’n cludo dysgwyr ysgol). Estyniadau Eraill i’r Gwasanaeth Dechreuodd y gwasanaeth o Benbedw i’r Wyddgrug, Loggerheads, Rhuthun a Dinbych yn 1924. Yn 1926, fodd bynnag, dechreuodd gwasanaeth trwodd ychwanegol yng Nghilgwri o bentref Liscard. Roedd y llwybr yn cynnwys Wallasey, Moreton, Hoylake, West Kirby a Heswall. Byddai un daith, oedd yn gadael Liscard am 1000, yn mynd drwodd i Ruthun, gyda chysylltiad i Ddinbych ac un daith o Liscard am 1430 yn terfynu yn Loggerheads. Hefyd yn 1926, roedd gwasanaeth trwodd i Ruthun yn cychwyn o Warrington, gan wasanaethu Frodsham a Widnes. Roedd cyfleuster hefyd i gysylltu o Northwich. Dim ond ym misoedd yr haf yr oedd y gwasanaeth hwn yn gweithredu. Yn 1927, dechreuodd gwasanaeth dyddiol o Lerpwl drwy Garston, Speke, Widnes a Runcorn, yn croesi afon Mersi ar Bont Gludo Widnes-Runcorn. Tra’r oedd yn dangos cysylltiadau â Rhuthun a Dinbych, roedd gofyn i deithwyr trwodd newid yn Loggerheads i’r bws oedd wedi cychwyn yn Liscard. Ni ymddangosodd y gwasanaeth trwodd o Lerpwl, Warrington a Liscard yn amserlenni’r 1930au cynnar, er bod nifer o wasanaethau a ddaeth i ben yn Loggerheads yn gwneud hynny. Daeth y rhan fwyaf o’r teithiau hyn yn wasanaethau cyflym ac ni fyddent yn cludo unrhyw deithwyr heblaw’r rhai’n mynd i Loggerheads ac yn ôl.
Hawlfraint 1919-2019 Cyngor Sir Ddinbych
Woodside Penbedw yn y 1960au diweddar, yn edrych dros afon Mersi i Lerpwl, gyda bysiau glas Corfforaeth Penbedw yn amlycaf. I ddiogelu Corfforaeth Penbedw, roedd amodau arbennig ynghlwm wrth amserlen Crosville yn atal y cwmni rhag codi a gollwng rhwng Penbedw a Bromborough. Sylwch ar salŵn unig Crosville mewn gwyrdd, i’r dde
Amserlen 1970 Penbedw – Yr Wyddgrug – Rhuthun – Dinbych
Loggerheads Estyniadau